Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr

Lliwiau Llachar Oes Fictoria

Museum gallery displaying 18th-century Welsh history and culture. At the centre, a mannequin dressed in a striking purple historical gown stands inside a glass display case. Surrounding exhibits include framed portraits in ornate gold frames, a wooden settle chair, a display cabinet containing historical artefacts, and a dresser filled with blue-and-white ceramic plates and cups.

Mae'n hawdd meddwl bod bywyd yn y 1800au yn llwm ac yn llwydaidd oherwydd y wynebau llym sy’n syllu arnom o’r lluniau du a gwyn. Fodd bynnag, roedd yn llawn lliwiau llachar!

Arweiniodd darganfyddiadau gwyddonol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol at ddyfeisio llifynnau synthetig. Defnyddiwyd y pigmentau newydd hyn i greu ffabrigau, papurau wal a phaentiau llachar, y gallai pawb eu defnyddio i addurno'u cartrefi mewn gwledd o batrymau a lliwiau.

Nid oedd pob un o'r lliwiau hyn yn ddiogel. Doedd neb yn sylweddoli ar y pryd y gallai'r cemegion gwenwynig, megis arsenig a ddefnyddiwyd i greu gwyrdd, achosi materion iechyd difrifol gan gynnwys methiant yr organau a hyd yn oed farwolaeth.

Vintage black Singer sewing machine with gold decorative detailing, displayed on a wooden table against a red floral-patterned background.

Peiriant Gwnïo Troedlath Singer

Daeth y peiriant gwnïo Singer yn eitem werthfawr ar ddiwedd y 1800au. Roedd yn caniatáu i bobl wneud dillad yn rhad gartref yn hytrach na phrynu rhai wedi'u gwnïo â llaw. Fodd bynnag, cyfrannodd hefyd at amodau slafdy wrth i weithgynhyrchwyr geisio bodloni’r galw am ffasiwn parod i’w wisgo. 

Close-up of a blue patterned waistcoat with a cream floral and scroll design, showing the collar and front fastening detail

Gwasgodau dynion

Byddai dynion yn gwisgo gwasgodau mewn lliwiau llachar a dyluniadau cymhleth i arddangos eu cyfoeth ac i fynegi eu steil bersonol eu hunain.

Close-up of a purple and black striped garment displayed on a mannequin, featuring black trim at the neckline and decorative tassel fastenings down the front.

Ffrog â streipiau porffor a du tua 1865

Porffor golau oedd y llifyn synthetig cyntaf i gael ei greu trwy ddamwain gan William Henry Perkin ym 1856.  Tan hynny, dim ond y teulu brenhinol oedd yn gwisgo porffor gan ei fod mor ddrud. Nawr bod pawb yn gallu ei fforddio, daeth yn boblogaidd iawn. Yn anffodus, roedd hefyd yn wenwynig iawn.

Tu Ôl i'r Llenni

Mae llawer o waith yn mynd i mewn i sicrhau bod y gwisgoedd yn y cyflwr gorau posibl i'w harddangos. Nid dim ond y gwaith cadwraeth ar y ffabrigau a'r pwythau sy'n bwysig, ond hefyd y broses o lanhau a chyflwyno'r gwisgoedd, gan gynnwys sut y byddant yn ffitio ar fodel.

Isod, gwelir ein tîm cadwraeth wrth eu gwaith yn cydosod haenau gwahanol y gwisgoedd cyn symud yr arddangosfa i'w lle yn Oriel y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg!