Skip to content

Cyrchu Casgliad

Exploring Ancient Egypt

Eich casgliad chi yw casgliad CofGâr. Mae'n cynnwys dros 50,000 o wrthrychau ar draws pum amgueddfa, a gasglwyd dros fwy na chanrif gan gannoedd o bobl. Efallai bod gan eich teulu wrthrychau yma a roddwyd ganddynt?

Ond mae gofalu am yr holl wrthrychau hyn yn dasg fawr. Ac nid oes gennym ond tîm bach. Mae ein tîm CofGâr yn aml yn brysur yn gwneud gwaith cadwraeth, yn cynllunio arddangosfeydd, neu'n croesawu ein hymwelwyr gwych. Felly, nid yw darparu mynediad i'r casgliad mor hawdd ag y mae'n ymddangos. Yn wir, mae dirywiad yn digwydd i'r rhan fwyaf o wrthrychau bob tro y cânt eu symud. Felly, rydym yn ofalus i beidio â'u symud oni bai bod angen gwneud hynny.

Dyna pam rydym yn gofyn yn garedig, os hoffech gael mynediad at wrthrychau o'r casgliad nad ydynt arddangos, eich bod yn defnyddio'r ffurflen ymholiad isod i ddweud wrthym pam yr hoffech gael mynediad, er mwyn i ni allu gwneud paratoadau a threfnu amser ymweld. Byddwch mor benodol â phosibl. Ni allwn dderbyn ymwelwyr heb apwyntiad ymlaen llaw.

Ffioedd

Mae'r taliadau am gael mynediad at y casgliadau fel a ganlyn:

Preifat/unigol, yr awr

£32.45 - Ar gyfer ymchwil a gynhaliwyd ar ran unigolyn

 

Masnachol, yr awr

£60.20 - Ar gyfer ymchwil a gynhaliwyd ar ran sefydliad

 

Sylwch fod y taliadau'n cynnwys yr amser a dreulir yn lleoli, nôl ac archwilio cyflwr gwrthrychau, yn ogystal â'r amser a dreulir yn eu dychwelyd.

Gwneud ymholiad