Teuluoedd yng Nghartref Dylan Thomas

Rydym yn croesawu ymwelwyr o bob oed i ddarganfod cartref teuluol olaf Dylan Thomas.
Y Cartref oedd y lle y treuliodd Dylan a'i deulu bedair blynedd gyda'i gilydd, ar hyd llwybr troellog, ychydig y tu allan i dref Talacharn.
P'un a oes gennych "deuluoedd swnllyd o ladron a crwydriaid" neu a hoffech chi yn syml chwarae "Seirff a Theuluoedd ac Ysgolion Hapus", cewch groeso cynnes yn y Cartref.
Dylan Thomas, Nadolig Plentyn yng NghymruRoedd cerddoriaeth bob amser ar noswyl Nadolig. Roedd ewythr yn chwarae'r ffidil, cefnder yn canu 'Cherry Ripe', ac ewythr arall yn canu 'Drake's Drum'. Roedd hi'n gynnes iawn yn y tŷ bach.

1. Pick up a backpack and start your adventure

2. Draw, write, or play in the Children's Bedroom

3. Spot the wildlife that inspired Dylan's work
Cyfleusterau i deuluoedd
Bwyd ac yfed
Menu
Mae Y Gegin Gartref yn cynnig amrywiaeth o giniawau ysgafn, byrbrydau, diodydd a hufen iâ i'r teulu cyfan.
Edrychwch ar ein bwydlen i gael rhagor o wybodaeth, ac ar y bwrdd 'prydau arbennig' yn y safle.
Seddi
Mae croeso i chi ddod o hyd i fwrdd y tu thew i'r ystafell de neu yn yr awyr agored ar y teras. Yn ystod misoedd yr haf, rydym yn ymestyn yr ardal eistedd i'r patio y tu allan, sef safle'r hen harbwr.
Mae mainc arall yn yr ardd o flaen y Cartref, a digonedd o leoedd eistedd eraill ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Cyfleusterau newid babanod
Ar gael yn y toiled niwtral o ran rhyw sy'n wynebu Sir John's Hill.
Bygis a chadeiriau gwthio
Nid yw'r Cartref yn hygyrch i gerti babanod na phramiau. Dim ond trwy fynd i lawr mwy na 40 o risiau o Lwybr Arfordir Cymru y gellir cyrraedd yr adeilad. Mae rhagor o risiau y tu fewn i'r ardal arddangos ac i Y Gegin Gartref.
Bwydo ar y fron
Mae croeso i chi fwydo ar y fron unrhyw le yn y Cartref.
Gofynnwch i'n tîm Gwasanaethau Ymwelwyr eich cyfeirio at le tawelach os yw'n well gennych fwy o breifatrwydd.
Hygyrchedd
I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn y Cartref, ewch i'n tudalen Hygyrchedd.
