Skip to content
Gwrthrych y Mis

Gorffennaf 2026

Can Cwrw Bragdy Felinfoel

Can Cwrw Cyntaf y DU

Close up of beer can

Roedd yr adeilad a elwir bellach yn Amgueddfa Parc Howard ar un adeg yn eiddo i deulu bragu. Fodd bynnag, dyfeisiwyd un o'r gwrthrychau mwyaf arwyddocaol yn y casgliad gan fragdy arall, ychydig i'r gogledd ar hyd Heol Felinfoel. 

Sefydlwyd Bragdy Felinfoel ym 1878 gan David John. Yn adnabyddus am ei gwrw, mae'r bragdy hefyd yn rhan ryfeddol o hanes Prydain: dyma gartref y can cwrw cyntaf yn y DU.

Ddydd Mawrth 3 Rhagfyr 1935, aeth Bragdy Felinfoel ati greu hanes drwy gynhyrchu'r can cwrw cyntaf ar raddfa fasnachol y tu allan i'r Unol Daleithiau. Roedd y cam arloesol hwn nid yn unig wedi trawsnewid deunydd pacio cwrw ym Mhrydain, ond rhoddodd hefyd hwb mawr ei angen i ddiwydiant tunplat Llanelli - diwydiant a oedd yn ganolog i hunaniaeth y dref fel 'Tinopolis' a chyflogwr lleol mawr.

Roedd David John wedi arallgyfeirio yn gynharach yn ei yrfa trwy brynu gwaith tun yn y Bynea a Dafen, ac roedd eisoes yn archwilio defnyddiau arloesol ar gyfer tunplat. Arweiniodd ei ddiddordeb mewn deunydd pacio newydd ar gyfer bwyd a diod at ddatblygu'r caniau cwrw cyntaf ym Mhrydain.

Ffordd newydd o becynnu cwrw

Roedd y caniau Felinfoel cynharaf â thop siâp côn, dewis clyfar o ran dyluniad a oedd yn galluogi'r bragdy i ddefnyddio ei beiriannau potelu presennol. Ymddangosodd y caniau cyntaf mewn lliw hufen, ond yn fuan daeth y dyluniad coch beiddgar yn cynnwys draig Felinfoel.

Roedd dyfodiad y can cwrw yn cael ei ganmol fel chwyldro ym maes dosbarthu. Yn gadarn ac yn ysgafn, gellid cludo caniau heb y risg o dorri - rhywbeth nad oedd modd ei sicrhau wrth ddefnyddio poteli gwydr.

Roedd pob can 10 owns (tua 280g) o gwrw golau yn dal tua'r un faint â photel hanner peint, er eu bod yn llawer llai na'r caniau rydyn ni'n gyfarwydd â nhw heddiw. Ar y dechrau roedd yfwyr y cwrw yn betrusgar, yn poeni y gallai'r metel effeithio ar y blas. Ond cafodd y pryder hwn ei ddatrys yn gyflym wrth ychwanegu caen cwyr y tu mewn i'r can, a oedd yn amddiffyn y blas gan helpu i gynyddu gwerthiant y caniau cwrw.

Felinfoel Beer Can

Dal i fragu

Mae Bragdy Felinfoel yn parhau i gynhyrchu cwrw heddiw ac yn dal i werthu caniau cwrw ledled y byd. Mae enghraifft o un o ganiau cwrw cyntaf Felinfoel yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard fel rhan o'n harddangosfa Straeon Llanelli. Ochr yn ochr ag ef, gall ymwelwyr archwilio rhagor o wrthrychau sy'n gysylltiedig â'r bragdy, gan gynnwys eitemau gan gystadleuwyr hanesyddol Felin-foel sef Bragdy Buckley.

Gwrthrychau y Mis