Skip to content
Gwrthrych y Mis

Chwefror 2026

Dylan yn y Gofod

Black and white photo of Dylan Thomas as a young man looking at the viewer within a faded cardboard frame

Mae hanes gwrthrych dinod yng nghasgliad Cartref Dylan Thomas, sef ffotograff sepia o Dylan yn 20 oed, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Dalacharn. Ar un adeg roedd yn berchen i Pamela Hansford, cariad cyntaf Dylan y bu'n llythyru ag ef yn 1933 ac 1934, ond daeth y ffotograff i ddwylo NASA yn y pen draw. 

Mae'r cysylltiad rhwng Dylan Thomas a'r rhaglen ofod Americanaidd yn dechrau gyda George Abbey. Roedd George yn un o uwch-swyddogion NASA a chanddo rôl bwysig wrth ddewis gofodwyr, a hynny pan oedd gwaith yr Unol Daleithiau o ran archwilio'r gofod yn ei anterth. 

Historic black-and-white portrait photograph of a seated Dylan Thomas holding an open notebook or sketchbook. The individual wears a dark knitted jumper beneath a patterned wool cardigan and has short, curly hair. A cigarette rests between the lips while the person looks towards the camera.
Credyd: Alamy

Gwreiddiau Cymreig ac Arwain NASA

Mae gwreiddiau cadarn gan deulu George Abbey yn Nhalacharn. Yno y ganwyd ei fam, Bridget Gibby, a chadwodd y teulu mewn cysylltiad agos â'r gymuned. Un o gefndryd George, Dick Lewis, oedd y dyn llaeth lleol, ac roedd yn ffrind agos i Dylan a Caitlin Thomas. Roedd Dick yn byw yn Eynonsdown ar Heol Newbridge, ac roedd yn un o'r cludwyr yn angladd Dylan yn 1953.

Symudodd Bridget i Lundain, lle cyfarfu â'i darpar ŵr, Sam Abbey. Un o Lundain oedd Sam, ac er iddo fudo i Ganada, dychwelodd ar ôl cael ei glwyfo wrth wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl genedigaeth eu mab cyntaf, symudodd y cwpwl yn ôl i Ganada, lle ganwyd George Abbey yn 1932. 

Tra oedd George yn Awyrlu'r Unol Daleithiau, ceisiodd ddod yn ofodwr yn gyntaf, ac er mai aflwyddiannus fu ei gais, aeth ymlaen i gael gyrfa ddisglair yn NASA am 39 o flynyddoedd. Bu'n gweithio ar deithiau cynnar Apollo, ac ymlaen hyd at ddatblygiad yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Erbyn yr 1980au, roedd yn dewis aelodau'r criw ar gyfer rhaglen y Wennol Ofod - a oedd yn cynnwys yr Americanes gyntaf i fynd i'r gofod - ac yn 1996 daeth yn Gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson NASA. 

Dylan Thomas yn Mynd i'r Gofod

Yn 1998, ac yntau'n ymfalchïo'n fawr yn ei dreftadaeth Gymreig a chysylltiadau ei deulu â Thalacharn, trefnodd George Abbey fod y ffotograff sepia o'r Dylan Thomas ifanc yn mynd ar fenthyg o hen gartref y bardd. Teithiodd y ffotograff ar y Wennol Ofod Columbia rhwng 17 Ebrill a 3 Mai 1998. Ar ôl dychwelyd i'r Ddaear, cafodd ei roi nôl yng Nghartref Dylan Thomas, gydag arysgrif arbennig a gofnodai ei daith ryfeddol i'r gofod. 

Shelf with Dylan Thomas photgraph and plaque from NASA

Cerdd yn y Gofod

Bu i'r cysylltiad rhwng Dylan Thomas a Gwennol Ofod Columbia bara hyd at daith olaf y llong ofod yn 2003. Ymhlith y criw o saith person roedd Ilan Ramon, gofodwr o Israel, a gariodd gydag ef gopi o gerdd enwog Dylan "Do Not Go Gentle into That Good Night." Uniaethai Ramon â themâu pwerus y gerdd, a chredai fod y geiriau'n adleisio ysbryd y daith. Wrth i Columbia gylchdroi'r Ddaear, felly hefyd eiriau Dylan, ac unwyd barddoniaeth ac archwilio'r gofod mewn ffordd deimladwy ac annisgwyl. 

Gwrthrychau y Mis