Skip to content
Gwrthrych y Mis

Hydref 2026

Maen Voteporix

Maen coffa rhyfeddol â llythrennau Lladin, arysgrif ogam a chroes gerfiedig. 

The Voteporix / Voteporigis Stone

O ble y daeth y maen?

Daeth y maen yn wreiddiol o Eglwys Teilo Sant, Castell Dwyran, lle cafodd ei ailddefnyddio fel rhan o gamfa yn wal derfyn yr eglwys. Yn 1921 cafodd ei gyflwyno i amgueddfa Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin (Amgueddfa Sir Gâr erbyn hyn). 

Mae cysylltiad posibl â'r byd Rhufeinig gan fod yr eglwys yn agos at ffordd Rufeinig i'r gorllewin o Gaerfyrddin. 

Beth mae'r ysgrifen yn ei ddweud?

Mae un arysgrif wedi'i hysgrifennu yn Lladin gan ddefnyddio llythrennau Rhufeinig. Mae modd ei chyfieithu fel:
"Maen coffa (neu fedd) Voteporix yr Amddiffynnydd." 

Efallai fod "Amddiffynnydd" yn deitl a oedd yn gysylltiedig â grym a statws. Ynghyd â'r groes gerfiedig a'r gair memoria, mae'n awgrymu bod y maen hwn yn gofeb Gristnogol, o bosibl o gyfnod mor gynnar â'r 4edd neu'r 5ed ganrif. 

Beth yw ogam?

Mae'r ail arysgrif yn defnyddio ogam, sef gwyddor o'r canoloesoedd cynnar oedd yn defnyddio strociau byr a rhiciau. Cafodd ei defnyddio'n bennaf i ysgrifennu Gwyddeleg cynnar rhwng tua 300 a 800 OC, yn aml ar feini a oedd yn nodi beddau, ffiniau neu berchnogaeth tir. Ar y maen hwn, mae'r ogam yn cofnodi enw: VOTECORIGAS. 

Dewch i weld y maen a'r cerfiadau drosoch chi eich hun – a dychmygu'r bobl a'r lleoedd sy'n gysylltiedig â'r heneb anhygoel hon. 

Gwrthrychau y Mis