Tachwedd 2025
Yr Hen Dderwen
Yn llên gwerin Ynysoedd Prydain mae'r dderwen yn goeden hudol sy'n arwydd o gryfder a doethineb. Yn chwedlau gwerin Y Mabinogi, mae Gwydion a Math yn creu Blodeuwedd o flodau derw a banadl, ac mae Lleu Llaw Gyffes yn dianc rhag ei dranc drwy droi'n eryr a hedfan i dderwen hud.

Yn chwedlau Myrddin a'r Brenin Arthur, a ddaeth yn boblogaidd yn yr 1100au, Caerfyrddin yw man geni Myrddin. Honnir yn aml fod yr enw 'Carmarthen' yn dod o Myrddin, ond y gwir yw bod y ddau enw'n tarddu o'r enw Rhufeinig ar dref Caerfyrddin sef Moridunum, sy'n golygu caer ger y môr. Clywir straeon o hyd fod Myrddin yn cysgu dan Fryn Myrddin ger yr amgueddfa.
Daeth coeden a blannwyd yn 1659 i nodi esgyniad y Brenin Siarl II i gael ei hadnabod fel Derwen Myrddin. Safai ar gyffordd Lôn yr Hen Dderwen a Heol y Prior, ac yn ôl y rhigwm fyddai'r dre'n diflannu dan y dŵr pe bai'r dderwen yn syrthio, "Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif". Cafodd ei gwenwyno'n fwriadol ar ddechrau'r 1800au i atal pobl rhag cwrdd oddi tani. Arddangosir yn yr amgueddfa ddarn o'r goeden a achubwyd yn 1951, a gwaredwyd y rhannau olaf ohoni yn 1978. Efallai fod cofio amdani'n cadw'r dref yn ddiogel.