Gwŷr Gwyllt Arenig
James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees

Cyflwyno'r Gwŷr Gwyllt
Am gyfnodau rhwng 1910 a 1913, ffurfiodd yr artistiaid James Dickson Innes ac Augustus John, ac weithiau Derwent Lees, gymuned artistig yn nyffryn Arenig yng Ngogledd Cymru. Gyda'i gilydd fe wnaethon nhw gynhyrchu paentiadau tirwedd arloesol a oedd wedi trawsnewid iaith weledol celf yng Nghymru.
Roedd yr artistiaid a'r gymuned ehangach a dyfodd o'u cwmpas i gyd wedi cyfarfod yn ystod eu hamser yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain a'u cysylltiad â grŵp Camden Town a'r Friday Club. Roedd y grwpiau hyn yn rhannu diddordeb yng ngwaith yr artistiaid Ôl-Argraffiadol ledled Ewrop fel Matisse a Picasso. Eu nod oedd paentio i gyfleu teimladau yn hytrach na realiti.
Roedd gan Innes a John ddiddordeb mawr mewn cymunedau Sipsiwn a'u ffordd o fyw. Cafodd Innes ei fagu yn agos at y gwersyll ym Mhwll y Ffwrnais a byddai'n treulio amser yno wrth fynd yn ôl i Lanelli. Datblygodd yr artistiaid ffordd o fyw yn Arenig a oedd yn herio gwerthoedd traddodiadol. Gallwch deimlo dwyster eu perthnasoedd a'u carwriaethau yn eu paentiadau.
"Des i’n benodol ar gyfer The Wild Men of Arenig. Wnaeth o ddim siomi. Roedd hi’n anhygoel gweld rhywfaint o waith J.D. Innes ochr yn ochr ag Augustus John a Derwent Lees."
Lesley, Swanley, Awst 2026

