Gweithdy Paentio Tirluniau

Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r arddangosfa Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i gyfoedion, mae’r gweithdy hwn yn gwahodd cyfranogwyr i archwilio paentio tirluniau drwy ddull ffres a mynegiannol. Gan ddefnyddio palet lliwiau traddodiadol a chyfyngedig, byddwn yn archwilio sut mae artistiaid yn creu awyrgylch ac emosiwn drwy naws, cyfansoddiad a’r ffordd o wneud marciau. Wrth weithio gyda sbwng, offer sy’n creu gwead ac amrywiaeth o dechnegau anghonfensiynol, anogir cyfranogwyr i lacio eu steil, arbrofi gydag effeithiau gwahanol ac ennill hyder wrth wneud penderfyniadau creadigol.
Mae’r gweithdy difyr a chefnogol hwn yn addas ar gyfer pob gallu ac yn cynnig digonedd o syniadau ymarferol i’w cymryd adref, gan ei wneud yn ychwanegiad gwerthfawr at becyn cymorth paentio unrhyw artist. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Cynhelir un sesiwn ar 20 Hydref rhwng 10:30yb a 12:30yp. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig i 10 o bobl, felly mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol. Mae mynediad am ddim i ofalwyr (ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd gofalwr yn dod).
Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw am £15.00 ynghyd â ffi archebu o 7% a TAW, a godir gan Ticketsource.
