Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Arddangosfa

Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion

Archwiliwch Gymru Rhamantaidd drwy J.M.W. Turner a'i gyfoedion, gan gynnwys llyfrau braslunio prin, tirweddau Cymru a chelf Neo-Ramantaidd yn Sir Gâr.

Llandovery Castle, on a Low Hill beside the River Bran. JMW Turner

Arddangosfa newydd gyffrous a ariennir gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund sy'n dwyn ynghyd dirweddau Cymreig gan J M W Turner ac artistiaid Rhamantaidd Prydeinig eraill o gasgliadau gan gynnwys y Tate, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma'r tro cyntaf i un o lyfrau braslunio Turner fod ar gael i'w weld yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn ei ymweliad â De Cymru ganrifoedd yn ôl. Ochr yn ochr â hyn, bydd darluniau eraill o'r sir megis Castell Llanymddyfri a Melin Llanddowror ar gael i'w gweld. 

Bydd Y Gymru Ramantaidd yn rhoi sylw i ymateb artistig yn dilyn cynnwrf gwleidyddol a chwyldro diwydiannol y 18fed a'r 19eg ganrif. Bydd yn bwrw golwg ar sut y teithiodd yr artistiaid Rhamantaidd i Gymru i ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn ei chestyll mawreddog, tirweddau gwledig amrywiol a hanes a chwedlau sy'n ennyn atgofion. Ochr yn ochr â gweithiau Turner, bydd paentiadau gan Samuel Palmer, David Cox Sr, Richard Wilson, William Havell a Paul Sandby gyda thirweddau Cymru yn sail iddyn nhw. 

Bydd printiau, cyfnodolion a chanllawiau teithio o gasgliadau CofGâr ei hun yn goleuo'r cyfnod diddorol hwn o hanes artistig a hanes llenyddol. 

Bydd yr arddangosfa hefyd yn edrych ar sut y daeth newid diwylliannol a gwleidyddol tebyg yn yr 20fed ganrif â grŵp newydd o artistiaid 'Neo-Rhamantaidd' gan ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn Ne Cymru. Bydd gweithiau John Piper a Graham Sutherland, sef darluniau dwys o'r dirwedd leol, hefyd yn cael eu harddangos. 

Darganfod fwy am Turnera Sir Gâr

Photograph of a historic stone castle ruin standing on a grassy rise beneath a clear blue sky.
12/08/26

Darganfod cysylltiad Turner â Thalacharn

Dilynwch ôl traed J.M.W. Turner drwy Gastell Talacharn, Aber Taf a'r tirweddau a ysbrydolodd y ddau – yr arlunydd enwog a'r bardd Dylan Thomas.

Read more