Skip to content
Amgueddfa Parc Howard
Erthygl

Arddangosfa newydd yn dod â Gwŷr Gwyllt Arenig i Amgueddfa Parc Howard

Arddangosfa newydd, Gwŷr Gwyllt Arenig: James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees yn agor yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ar 4 Gorffennaf 2026 tan 10 Ionawr 2027.

Museum exhibition panel introducing “The Wild Men of Arenig / Gwŷr Gwyllt Arenig” displayed on a pale pink gallery wall.

Mae'r arddangosfa'n archwilio'r gymuned artistig ryfeddol a ddatblygodd yn Nyffryn Arenig yng Ngogledd Cymru rhwng 1910 a 1913 ac yn dathlu'r artistiaid a helpodd i lunio celf fodern Cymru.

Ymysg uchafbwyntiau'r arddangosfa mae Mynydd Arenig atmosfferig Innes, ar fenthyg o Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, ac Arenig Mawr Lees, o'r Amgueddfa Crochenwaith ac Oriel Gelf yn Stoke-on-Trent. Yn cael ei arddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf mae paentiad dyfrlliw gan Innes o Gastell Cydweli, a brynwyd ar gyfer yr amgueddfa yn 2025 yn dilyn ymdrech fawr i godi arian dan arweiniad Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli, gyda rhoddion gan Gymdeithas Gelf Llanelli, Cymdeithas Ddinesig Llanelli a'r Cyffiniau, ac unigolion lleol.

Mae Gwŷr Gwyllt Arenig yn archwilio sut ymatebodd y tri artist hyn - Innes, John a Lees - i'r mudiad celf Ôl-Argraffiadol rhyngwladol mewn ffordd arbennig sy'n unigryw i Gymru. Roedd lliw ac emosiwn beiddgar eu tirweddau yn mynegi profiad personol cymaint â lle. Mae'r arddangosfa yn archwilio ffordd o fyw bohemaidd cymuned Arenig a dylanwad y menywod, gan gynnwys Euphemia Lamb a Dorelia McNeill, a helpodd i lunio ei gweledigaeth greadigol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Rydym yn falch iawn o ddod â'r arddangosfa gelf hon o ansawdd uchel i Amgueddfa Parc Howard. Roedd Augustus John a James Dickson Innes ymhlith artistiaid Cymreig mwyaf arwyddocaol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a enillodd gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol a helpodd i lunio cyfeiriad celf fodern Prydain.

Rydym yn arbennig o falch o arddangos y paentiad diweddaraf yng nghasgliad yr amgueddfa, sef y paentiad o Gastell Cydweli gan yr artist James Dickson Innes, a anwyd yn Llanelli, ac rydym yn ddiolchgar iawn i wirfoddolwyr a chefnogwyr lleol yr amgueddfa am ei gwneud hi'n bosibl i ni brynu'r paentiad hwn.”

Newyddion

Photograph of a historic stone castle ruin standing on a grassy rise beneath a clear blue sky.
12/08/26

Darganfod cysylltiad Turner â Thalacharn

Dilynwch ôl traed J.M.W. Turner drwy Gastell Talacharn, Aber Taf a'r tirweddau a ysbrydolodd y ddau – yr arlunydd enwog a'r bardd Dylan Thomas.

Read more
Exhibition poster for Romantic Wales, 23.05.2026 - 16.10.2026 at Carmarthenshire Museum.
12/08/26

Y Gymru Ramantaidd yn dod â J.M.W.Turner i Amgueddfa Sir Gâr

Mae arddangosfa newydd gyffrous, Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion, bellach ar agor yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili tan 16 Hydref 2026.

Read more
View of a slow-flowing river bordered by dense woodland, with overhanging tree branches forming a natural frame across the scene. A stone bridge with a single visible arch spans the water in the middle distance, partially hidden by thick vegetation growing around its walls.
25/06/26

Gaeaf o Newid

Ar ôl y llifogydd di-baid yng ngaeaf 2025 yn sgil Storm Claudia, cwympodd rhan fawr o’r argae hanesyddol ar hen safle Gwaith Tunplat Cydweli. 

Read more
Logo for the Garfield Weston Foundation
17/04/26

Trysorau Cenedlaethol yn dod i Sir Gâr

Rydym wrth ein bodd o fod yn un o 11 amgueddfa ac oriel ar draws y DU sy'n dod â thrysorau cenedlaethol i gymunedau lleol mewn arddangosfeydd ysbrydoledig, a hynny diolch i'r rownd ddiweddaraf o Raglen Benthyciadau Weston gyda Art Fund.

Read more
Vintage racing car named “BABS.” displayed on a beach, surrounded by visitors with cliffs and coastline in the background.
17/04/26

Dathliad canmlwyddiant BABS

Dychwelodd BABS i Draeth Pentywyn yng ngwanwyn 2026, gan ddod â chanrif o gyflymder a straeon yn ôl i'r traeth lle cafodd hanes ei greu.

Read more
Standing stone in foreground, with a green banner behind, in a large top-lit gallery
17/04/26

Orielau Newydd yn Amgueddfa Sir Gâr

Mae CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cam ffisegol cyntaf rhaglen gyffrous o waith yn Amgueddfa Sir Gâr yn dechrau ar 19 Ionawr 2026.

Read more