Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Erthygl

Y Gymru Ramantaidd yn dod â J.M.W.Turner i Amgueddfa Sir Gâr

Mae arddangosfa newydd gyffrous, Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion, bellach ar agor yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili tan 16 Hydref 2026.

Exhibition poster for Romantic Wales, 23.05.2026 - 16.10.2026 at Carmarthenshire Museum.

Mae'r arddangosfa, a gefnogir gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund, yn dwyn ynghyd weithiau celf gan artistiaid Rhamantaidd a Neo-Ramantaidd wedi'u hysbrydoli gan dirluniau a threftadaeth Cymru.

Bydd ymwelwyr yn gweld gweithiau gan J.M.W. Turner yn Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, gan gynnwys llyfr braslunio cynnar o'i ymweliad â De Cymru, ochr yn ochr â dyfrlliwiau o Gastell Llanymddyfri a Melin Llanddowror. Bydd paentiadau gan artistiaid Rhamantaidd blaenllaw o'r 18fed a'r 19eg ganrif, gan gynnwys David Cox (yr Hynaf), Samuel Palmer a Richard Wilson hefyd yn cael eu harddangos.

Cefnogir y benthyciadau gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund. Wedi'i chreu gan Sefydliad Garfield Weston a'r Art Fund, Rhaglen Fenthyca Weston yw'r cynllun ariannu cyntaf erioed ledled y DU i alluogi amgueddfeydd llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyca gweithiau celf ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.

Yn cynnwys gweithiau o'r Tate, Amgueddfa Cymru ac eraill, mae Y Gymru Ramantaidd yn edrych ar sut y cafodd artistiaid eu hysbrydoli gan Gymru yn ystod cyfnod o newid gwleidyddol a diwydiannol. Fe wnaeth artistiaid Rhamantaidd gan gynnwys William Havell a Paul Sandby gyfleu tirluniau a thraddodiadau nodedig y genedl am y tro cyntaf, tra bod gwaith Neo-Ramantiaid diweddarach fel John Piper a Graham Sutherland yn adlewyrchu'r newidiadau mawr a fu yn yr 20fed ganrif mewn ffordd bwerus.

Mae gwrthrychau o gasgliadau CofGâr, gan gynnwys printiau, cyfnodolion a chanllawiau teithio, yn rhoi cipolwg pellach ar sut ysbrydolodd Cymru artistiaid ac awduron.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Rydym yn falch iawn o groesawu Y Gymru Ramantaidd i Amgueddfa Sir Gâr. Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd weithiau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, gan adrodd stori tirluniau a threftadaeth Cymru mewn ffordd sy'n hygyrch ac yn ddiddorol i bawb.”

Dywedodd Sophia Weston, Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Garfield Weston:

"Wrth i Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund ddathlu ei 10fed flwyddyn yn 2026, rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r arddangosfa hon, a fydd yn dod â gweithiau celf gwerthfawr sydd wedi'u hysbrydoli gan y dirwedd leol i gynulleidfaoedd yn Sir Gâr am y tro cyntaf."

Newyddion

Photograph of a historic stone castle ruin standing on a grassy rise beneath a clear blue sky.
12/08/26

Darganfod cysylltiad Turner â Thalacharn

Dilynwch ôl traed J.M.W. Turner drwy Gastell Talacharn, Aber Taf a'r tirweddau a ysbrydolodd y ddau – yr arlunydd enwog a'r bardd Dylan Thomas.

Read more
Museum exhibition panel introducing “The Wild Men of Arenig / Gwŷr Gwyllt Arenig” displayed on a pale pink gallery wall.
12/08/26

Arddangosfa newydd yn dod â Gwŷr Gwyllt Arenig i Amgueddfa Parc Howard

Arddangosfa newydd, Gwŷr Gwyllt Arenig: James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees yn agor yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ar 4 Gorffennaf 2026 tan 10 Ionawr 2027.

Read more
View of a slow-flowing river bordered by dense woodland, with overhanging tree branches forming a natural frame across the scene. A stone bridge with a single visible arch spans the water in the middle distance, partially hidden by thick vegetation growing around its walls.
25/06/26

Gaeaf o Newid

Ar ôl y llifogydd di-baid yng ngaeaf 2025 yn sgil Storm Claudia, cwympodd rhan fawr o’r argae hanesyddol ar hen safle Gwaith Tunplat Cydweli. 

Read more
Logo for the Garfield Weston Foundation
17/04/26

Trysorau Cenedlaethol yn dod i Sir Gâr

Rydym wrth ein bodd o fod yn un o 11 amgueddfa ac oriel ar draws y DU sy'n dod â thrysorau cenedlaethol i gymunedau lleol mewn arddangosfeydd ysbrydoledig, a hynny diolch i'r rownd ddiweddaraf o Raglen Benthyciadau Weston gyda Art Fund.

Read more
Vintage racing car named “BABS.” displayed on a beach, surrounded by visitors with cliffs and coastline in the background.
17/04/26

Dathliad canmlwyddiant BABS

Dychwelodd BABS i Draeth Pentywyn yng ngwanwyn 2026, gan ddod â chanrif o gyflymder a straeon yn ôl i'r traeth lle cafodd hanes ei greu.

Read more
Standing stone in foreground, with a green banner behind, in a large top-lit gallery
17/04/26

Orielau Newydd yn Amgueddfa Sir Gâr

Mae CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cam ffisegol cyntaf rhaglen gyffrous o waith yn Amgueddfa Sir Gâr yn dechrau ar 19 Ionawr 2026.

Read more