Skip to content
Erthygl

Grant mawr gan Lywodraeth Cymru i hybu diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae cymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar fin elwa o fuddsoddiad diwylliannol mawr, wrth i'r rhanbarth sicrhau grant a ddyfarnwyd o dan ffrwd ariannu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Children and accompanying adults take part in an interactive activity inside a historic room with dark wood panelling and a grand piano. Several children stand with their hands on their heads while following instructions, while others watch nearby.

Bydd y prosiect, sy'n werth £239,609, yn rhedeg tan fis Hydref 2026, a'i nod yw cryfhau cyfleoedd diwylliannol gan lunio gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol tra'n cyd-fynd â Blaenoriaethau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglen gydweithredol rhwng Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gan ganolbwyntio ar greu gweledigaeth ddiwylliannol hirdymor ar gyfer y rhanbarth, gan sicrhau bod lleisiau lleol yn llunio cynlluniau i'r dyfodol.

Bydd pob sir hefyd yn cyflwyno prosiect o fis Ebrill 2026, wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol. Bydd Rheolwr Prosiect yn cydlynu cyflawni ac yn ceisio cyllid pellach i barhau â'r cydweithrediad rhanbarthol y tu hwnt i 2026. CofGâr sy'n arwain y prosiect ar gyfer Sir Gâr.

Bydd y rhaglen uchelgeisiol hon yn cryfhau cydweithredu diwylliannol ar draws y rhanbarth, gan sicrhau bod blaenoriaethau lleol wedi'u hymgorffori mewn gweledigaeth strategol a rennir. Mae'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol diwylliannol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Newyddion

Two children use an activity and drawing station inside the Dylan Thomas Boathouse. One child selects coloured pens from a wall-mounted holder while another draws at a wooden desk.
16/10/26

Buddsoddiad sylweddol wedi'i sicrhau ar gyfer Cartref Dylan Thomas

Mae Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn wedi derbyn dros £77,000 o Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant – menter ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Read more
Illustrated Halloween-themed image of a large historic mansion with glowing orange windows against a dark orange sky, alongside a circular photo of a person gardening and holding freshly harvested vegetables.
16/10/26

Gwrachod, dewiniaid a dim tamaid o blastig

Cewch Galan Gaeaf gynaliadwy yn CofGâr!

Read more
Photograph of a historic stone castle ruin standing on a grassy rise beneath a clear blue sky.
12/08/26

Darganfod cysylltiad Turner â Thalacharn

Dilynwch ôl traed J.M.W. Turner drwy Gastell Talacharn, Aber Taf a'r tirweddau a ysbrydolodd y ddau – yr arlunydd enwog a'r bardd Dylan Thomas.

Read more
Exhibition poster for Romantic Wales, 23.05.2026 - 16.10.2026 at Carmarthenshire Museum.
12/08/26

Y Gymru Ramantaidd yn dod â J.M.W.Turner i Amgueddfa Sir Gâr

Mae arddangosfa newydd gyffrous, Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion, bellach ar agor yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili tan 16 Hydref 2026.

Read more
Museum exhibition panel introducing “The Wild Men of Arenig / Gwŷr Gwyllt Arenig” displayed on a pale pink gallery wall.
12/08/26

Arddangosfa newydd yn dod â Gwŷr Gwyllt Arenig i Amgueddfa Parc Howard

Arddangosfa newydd, Gwŷr Gwyllt Arenig: James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees yn agor yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ar 4 Gorffennaf 2026 tan 10 Ionawr 2027.

Read more
View of a slow-flowing river bordered by dense woodland, with overhanging tree branches forming a natural frame across the scene. A stone bridge with a single visible arch spans the water in the middle distance, partially hidden by thick vegetation growing around its walls.
25/06/26

Gaeaf o Newid

Ar ôl y llifogydd di-baid yng ngaeaf 2025 yn sgil Storm Claudia, cwympodd rhan fawr o’r argae hanesyddol ar hen safle Gwaith Tunplat Cydweli. 

Read more
Logo for the Garfield Weston Foundation
17/04/26

Trysorau Cenedlaethol yn dod i Sir Gâr

Rydym wrth ein bodd o fod yn un o 11 amgueddfa ac oriel ar draws y DU sy'n dod â thrysorau cenedlaethol i gymunedau lleol mewn arddangosfeydd ysbrydoledig, a hynny diolch i'r rownd ddiweddaraf o Raglen Benthyciadau Weston gyda Art Fund.

Read more
Vintage racing car named “BABS.” displayed on a beach, surrounded by visitors with cliffs and coastline in the background.
17/04/26

Dathliad canmlwyddiant BABS

Dychwelodd BABS i Draeth Pentywyn yng ngwanwyn 2026, gan ddod â chanrif o gyflymder a straeon yn ôl i'r traeth lle cafodd hanes ei greu.

Read more
Standing stone in foreground, with a green banner behind, in a large top-lit gallery
17/04/26

Orielau Newydd yn Amgueddfa Sir Gâr

Mae CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cam ffisegol cyntaf rhaglen gyffrous o waith yn Amgueddfa Sir Gâr yn dechrau ar 19 Ionawr 2026.

Read more